|
mae hen wlad fy nhadau
yn annwyl i mi
gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
ei gwrol ryfelwyr gwladgarwyr tra mad
dros ryddid collasant eu gwaed
cytgan:
gwlad! gwlad! pleidiol wyf i'm gwlad
tra môr yn fur
i'r bur hoff bau
o bydded i'r heniaith barhau
hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
ei nentydd, afonydd i mi
os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed
mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed
ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
ni thelyn berseiniol fy ngwlad
|
|