| gan Debs Prowse
 
 Nhw yw'r band a 
                    wnaeth eu ffordd i Bandiau Cymreig Wythnosol ar gair technegol, 
                    ond ers camarwainodd eu cwmni recordiau, Big Noise Recorders, 
                    ni i gyfweld Derrero am ein rhifyn cyntaf mwy na tair blynedd 
                    yn ôl, mae'r band wedi dod yn osodyn cadarn ar stereo 
                    Bandiau Cymreig Wythnosol, heb sôn am yn ein calonnau. 
                    Wedi mwydro? Dylech chi fod... Efalli dylwn i 
                    ebsonio. Dych chi'n gweld, mewn gwirionedd dydy Derrero ddim 
                    yn Gymry. Furffion nhw yn yr un colleg celf yn Falmouth a 
                    fynychodd Pete Fowler, (roedd e cwpwl o flyneddoedd uwchlaw 
                    nhw), symudodd y bechgyn Derrero - Dave, Andy ac Ash - i fyny 
                    i Gaerdydd wedi Andy benderfynnu dilyn ei gariad Mary pan 
                    aeth hi i astudio mewn ysgol ffilm yn Newport.  Wedi BCW gamddeall 
                    ychydig mewn sgwrs deleffon, mae'r band yn cael ei ystyried 
                    yn gymain o ran o'r sîn Cymreig â unrhyw fand 
                    arall o Gaerdydd. Wrth gwrs, oherwydd dan ni'n gwybod beth 
                    dan ni'n gwybod nawr, dylen ni fod yn dweud i Derrero i bisio 
                    bant ond allwn ni ddim gwneud hynny, ti'n gweld, oherwydd 
                    maen nhw'n rhy... wel, maen nhw'n rhy dam da, yn y bôn. 
                    Mae eu pop llweygus-ond-hollol-hygyrch, cytûn, dim-neb-synnwyr-hiwmor 
                    yn annhebyg i unrhywbeth sy'n cael ei gynhyrchu gan fandiau 
                    Cymreig eraill; gellir maddau rhywun am feddwl fod yr uchod 
                    yn disgrifio y Super Furry Animals neu Gorky's Zygotic Mynci, 
                    ond mewn gwirionedd, mae Derrero yn swnio dim bid fel rhain 
                    ychwaith. Efalli byddai cymariethau Teenage Fanclub yn fwy 
                    cywir, ond yn benodol yng Nghymru, yn wir, mae'r swn Derrero 
                    yn unigryw.  Y tro cyntaf cyfweldon 
                    ni Derrero, roedd Emma ac minnau yn meddw gaib yn eistedd 
                    ar y cwrbyn tu allan y Red Eye yn Islington, gogledd Llundain, 
                    ac trodd y sgwrs i ganolbwyntio esgidiau platfform, medd-dod 
                    a pryfed cop. Y tro yma, beth bynnag, sicrheues i'r sobrwydd 
                    o fy hunan (a'r band) pan cwrddes i Dave, y chwareuwr bas, 
                    ac Andy, y canwr/drwmiwr am sudd oren tu allan tafarn yn Camden 
                    cyn iddynt chwarae eu gig NME yn Y Monarch in May. Tra bod 
                    Dave yn cael y diodydd, mae Andy a minnau yn siarad am slotiau 
                    cefnogi diweddar Derrero gyda'r SFA yn ystod cwpwl o gigs 
                    chwaraeon nhw i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf, Mwng. Ydy Derrero 
                    wedi cefnogi y Furries o flaen? "Ydyn, yn 
                    Yr Alban," medde Andy. "Eitha sbel yn ôl, 
                    i weud y gwir, rownd yr amser cafodd Radar ei ryddhau yn gyntaf, 
                    sy'n eitha sbel yn ôl," mae e'n chwerthin, "dwy 
                    flynedd, on' dyw e?" "Roeddwn nhw'n 
                    gigs eitha bach iddyn nhw, ond neis." Mae e'n sylwi fy 
                    mod i wedi dechrau recordio yn barod, a mae e'n pwyntio at 
                    y recordydd tâp: "Yw e mlaen?" Ydy, on' nadw i'n 
                    slei? Felly, mae Radar Intruder yn ail-rhyddhad, ydy e? "Mae e'n ail-deilliad," 
                    mae Andy yn esbonio. "Dyna beth mae'n cael ei alw, sydd 
                    dim ond meddwl dyw e heb gael eu newid; dim ond mwy o gopïau 
                    ar silffoedd. Mae'n debyg fod e'n digwydd trwy'r amser, bandiau 
                    yn ail-rhyddhad yr un can. Yn y dechrau, roedden ni'n synnu 
                    pam - roedden ni'n dweud "yn siwr mae digon o stwff 'da 
                    ni i rhoi rhywbeth arall allan" ond mae e dal yn berthnasol 
                    oherwydd ei fod ar y albwm, ac mae e'n un o'r tiwniau mwyaf 
                    ennyd, felly dyna'r rheswm, dw i'n meddwl." Pa gefnogaetheu 
                    eraill y mae Derrero wedi gwneud yn diweddar? Dw i'n cofio 
                    gweld eu enw ar uffern o lot o hysbysebion fel cefnogaeth 
                    am rhai bandiau ardderchog.  Mae Andy yn chwerthin. 
                    "Trienu nad oedd e'n uffern o lot! Wel, naethon ni ychydig 
                    o bethau, i'r rhyddhad o "Unstraighforwardtune". 
                    Cefnogon ni Sebadoh dwywaith, a Spinarama, y dyn cyn-Wedding 
                    Present, y prif ganwr, ei beth newydd. Ac wedyn Gorky's, dw 
                    i'n meddwl naethon ni mwy o gigs gyda nhw. Dan ni wedi chwarae 
                    gyda Gorky's eitha lot, syn stwff da i gyd.  "Dan ni'n 
                    edrych ymlaen at y daith Grandaddy," mae e'n parhau. 
                    "Dan ni'n gwneud tua wyth dyddiad o gwmpas Lloegr ac 
                    Yr Alban, dylai hynny fod yn wuch oherwydd dan ni wir i mewn 
                    iddo nhw. Mae un o'r dyddiadau 
                    Grandaddy 'ma yn yr Electric Ballroom yn Camden Town. Dw i'n 
                    dweud wrth Andy oherwydd fy mod wedi bwy yn Camden am y trideg 
                    un mlynnedd, diwethad, galla i cofio dawnsio fy mh'nawniau 
                    Sul i ffwrdd fan 'cw pan roedd y lle yn roller disco yn y 
                    70au a'r 80s.  Mae Andy yn chwerthin: 
                    "Od!" Hefyd mae e'n farchnad 
                    dan do ar penwythnosau, ac maen nhw'n cynnal ffair recordiau 
                    yno, ac wedyn yn y nos mae e'n troi'n glwb a man cyfarfod 
                    cerdd. Mae e'n le aml-ddefnydd, dw i'n dweud wrth Andy.  "Felly, ti 
                    wedi gweld e mewn ei agweddau gwahanol? Felly tyfest ti i 
                    fyny yn Camden, a ti'n dal yma ?" Mae Dave yn dychwelyd 
                    o'r bar ac mae'r cyfweliad yn parhau. Dwi'n gofyn pa mor dda 
                    mae rhyddhadiadau Derrero wedi gwneud ers y cyfweliad dwiethaf 
                    - dwi'n siwr fy mod wedi gweld enw'r band yn y wasg gerddoriaeth 
                    "parchus" ers hynny. Andy: "Dan 
                    ni wedi cael mwy o syllw, on ydan ni? (?)" Dave: "Ydyn, 
                    llawer mwy o sylw. Mae pobl wedi bod yn sylwi." Andy: "Gyda 
                    Hall or Nothing, yn amlwg..." [swyddfa wasg y band, sydd 
                    hefyd yn gofalu am' y Manics, SFA, Stereophonics a Kylie Minogue]. 
                     Mae'n nhw'n gwmni 
                    gwasg da iawn, on ydyn nhw? (?) Mae Andy yn nodio. 
                    "Ydyn, mae hynny yn eitha arwyddocaol yn wir, oherwydd 
                    roedden da ni bobl wasg da o'r blaen, neu yn honedig; roedden 
                    nhw'n gwmni mawr, ac roedd cwpl o bethau 'da nwh, ond nid 
                    gymaint â meddylion ni. Ond mae'n debyg roedd Caffy, 
                    a welodd ni'n cefnogi Patrick Jones yn y Water Rats, wedi 
                    eu syfrdannu, felly maen nhw wedi cymryd ni ymlaen am ychydig 
                    o arian i ddechrau, a mae nhw wedi gwneud llawer. Mae nhw'n 
                    wuch, mae'n ymddangos. Sut cafodd Dererro 
                    y gig Patrick Jones? Mae Andy yn esbonsio: 
                    "Ffoniodd Pat Big Noise a dweud, "bardd dw i, dw 
                    i eisiau gwneud rhywbeth sydd cynnwys cerdd hefyd," ac 
                    dw i'n meddwl daeth Ceri [un hanner o'r partneriaeth Big Noise] 
                    off y ffôn gyda fe sylwaeddoli'r ymhlygaidau o beth 
                    allen nhw wneud, ac yna meddylon nhw, ie, dyw e heb gael ei 
                    seinio a mae e'n frawd i Nicky Wire, felly aethon nhw amdano 
                    fe. Dw i'n meddwl ei fod e wedi bod yn werth y drafferth." Os dw i'n cofio 
                    yn iawn, roedd canwr/gitarydd Derrerro, Andy, yn rhan o grw^p 
                    cefnogi Patrick nos hynny. Dave: "Roedd 
                    e'n chwarae gitâr." Andy: "Digon 
                    gwir, Ashley yn gweithio i rhywun arall eto! Mae e wedi chwarae 
                    da'r Gorky's ychydig hefyd. Ar y gair, mae Ashley yn cyrraedd y dafarn
 "Son am y 
                    diafol," mae Dave yn chwerthin. Mae Ash yn gwênu 
                    ond yn aros yn ddistaw trwy weddill y cyfweliad.  Dw i'n gofyn am 
                    arddangosfa diweddar cynhaliodd Derrero yng Nghaerdydd, sy'n 
                    cynnwys cyfraniadau o amryw gerddor ac arlunydd Cymreig, yn 
                    cynnwys Pete Fowler a canwr SFA, Gruff Rhys. Sut naeth e ddigwydd? Mae Andy yn esbonio: 
                    "Dim ond trwy ymarfer celf a cerdd ers coleg, ac eisiau 
                    arddangos rhywbeth, ac yna meddwl bod ni'n nabod llawer o 
                    bobl creadigol sy'n gallu cael eu cynnwys."  Oedd gwaith da 
                    chi i gyd yn yr arddangosfa? "Cafodd Ash 
                    rhai darnau o farddoniaeth a dramau," medde Andy, "ac 
                    es i â ychydi o luniau a nes i set fach a stwff. Byddai 
                    Dave wedi gwenud darn, ond aeth e allan a cael chwalad da'r 
                    Gorky's" Mae Dave yn chwerthin. 
                    "Es i allan gyda Gorky's yn lle gorffen fy llun! Ond 
                    adeiladodd Mary rhyw psygod papur mache a'u crogi nhw o'r 
                    nenfwd..." Andy: "Pysgod 
                    mwy na bywyd! Mae tanciau pysgod da ni adre, a mae e wedi 
                    mynd mewn i'n isymwybod..." Fyddwch chi gwneud 
                    mwy o arddangosfeudd? "Efallai," 
                    synfyfyriodd Andy. "Cawn ni weld. Fydden ni ddim eisiau 
                    ailadrodd e, dim ond er mwyn gwneud hynny, a bod e ddim yn 
                    troi mas mor dda. Os yw e'n teimlo'n naturiol yna ie, yn siwr, 
                    a bydden ni cael perfformiwyr diddorol eto- aroswn ni a gweld." Mae Mary, cariad 
                    Andy, wedi dod i mewn i'r band i chwarae allweddellau. Beth 
                    sbardunodd y penderfyniad 'na? "Dw i ddim 
                    i weud y gwir," medde Andy. "Doedden ni ddim yn 
                    meddwl amdano fe, ymarfer oedd en ni, dw i'n meddwl, a..." Mae Dave yn parhau: 
                    "Roedden ni'n recordio gyda hi, defnyddio hi ar allweddellau, 
                    a roedden ni eisiau gwneud hynny yn fyw yn hefyd oherwydd 
                    doedd da ni neb i chwarae. Roedd Mary yn hongian rownd yr 
                    rehyrslas eniwê, felly gofynon ni hi chwarae ychydig 
                    pa roedden ni'n ymarfer, ac mae wedi datblygu, ac nawr mae 
                    hi'n rhan o'r band." Andy: "Roedd 
                    e'n gwneud llawer o synnwyr y pryd 'ny, oherwydd wrth recordio, 
                    roedden ni eisiau lledu tu hwnt i dri rhan a ychwanegu tameidiau, 
                    ti'n gwybod, ac roedden ni eisiau adgreu hynny'n fyw." Roedd en 
                    symudiad ysbrydol, oherwydd mae allweddallau Mary yn rhoi 
                    rhywbeth ychwanegol ir sw^n cyfangwbl. Dw in gofyn 
                    am duedd Mary i guddio yng nghefn y llwyfan yn ystod gigs. 
                     "Mae hin 
                    ymlusgo ymlaen," mae Dave yn chwerthin.  "Mwyaf or 
                    amser mae en oherwydd fod y llwyfannau yn rhy fach," 
                    esbonia Andy. Mae e bron fel 
                    petai hi'n cesio bod yn anweledig "Efallai tipyn 
                    bach," mae Andy yn cyfaddef. "Dw i ddim yn meddwl 
                    gwelodd hi erioed ei hun fel perfformiwr cerddorol, felly 
                    mae e'n siwr i fod ychydig yn od."  Mae allweddellau 
                    Mary yn chwanegu aeddfedrwydd, bron, i beth mae Derrero yn 
                    gwneud. Mae Unstraightforwardtune - gyda ychydig draciau arall 
                    ar yr albwm diweddaraf ma - yn ymlacgar iawn, wrth cymharu 
                    ar stwff ar eu albwm cyntaf, a oedd yn eitha cyffrous 
                    mewn cymhariaeth i Fixation With Long Journeys.  Mae Andy wedi eu 
                    syny fy mod yn cofio eu halbwm cyntaf eto.  "Ti dal yn 
                    cofio fe?" mae en gofyn. "Y peth gydar 
                    un cyntaf, roedd en teimlo eitha byw, mwy fel albwm 
                    byw. Ond ar y llaw arall, aethon ni'n eitha creadigol gyda 
                    fe, roedden nin eitha hapus gyda fe, tin gwybod, 
                    yn meddwl am syniadau cynhyrchiad ac ati. Ond sylwes fod Select 
                    wedi dweud taw'r albwm newydd oedd ein cyntaf felly mae e 
                    ychydig fel 'sa'r un cyntaf wedi ei ysgubo o dan y carped. 
                    Gobeithio bydd yr albwm nesa yn bod hollol wahanol yn cerddorol, 
                    eto, mae llawer o amswer wedi pasio.  Gydar gig 
                    dim ond mater o oriau i ffwrdd, dw in gofyn os ydy Derrero 
                    yn mwynhau chwarae yn llundain yn wir. Mae rhai cerddorion 
                    yn casáu fe, ac galla i weld pam; rhywsut mae torf 
                    Llundain yn fwy ffwdanus, llai bodlon i adael mynd a mwynhau 
                    eu hunain.  Dave: "Dw 
                    in ddim yn meindio, mewn gwirionedd. Roedd en 
                    arfer bod yn waith anodd, chwarae i neb mewn man cyfarfod 
                    bach, ond
 mae en gwella. Yn arbennig pan tin 
                    cefnogi band mawr." Ac gigs yn gyffredinol? 
                    Tin cael ymateb da wrth y gynulleidfaoedd? Mae Andy yn oedi 
                    cyn ateb. "Dim yn wir. Dw i ddim yn gwybod, dan ni dal 
                    yn ceisio cael fanbase. Mae neb yn dod i'n gweld ni yng Nghaerdydd, 
                    mewn gwirionedd! Gobeithio byddwn nin gallu rhoi rhyw 
                    fath o daith ynghyd o man cyfarfod bach gyda bandiau o lefel 
                    tebyg yn fuan. Tin gwybod, meddwl ar y llinellau ma 
                    efallai, am ein taith hunain, ond dan ni ddim yn siwr eto." 
                     Byddwn in 
                    dychmygu fod cefnogi bandiau mawr yn helpu - sylwes i yn y 
                    gig Super Furry Animals yn Brighton fod pobl yn edrych ar 
                    Derrero yn iawn, talu sylw, clapio... "Dan nin 
                    cael rhai achlysurol sydd wedi clywed ein stwff, syn 
                    beth cyffrous iawn," mae Andy yn derbyn. "Mae en 
                    gwella" mae Dave yn ychwanegu.  Andy: "Mae 
                    en od, sut mae en gweithio, oherwydd gyda Terris 
                    dim ond un peth gwasg mawr ac maen nhwn symud i fyny 
                    gêr yn hollol, mae en od. Dw in meddwl gyda 
                    ni, mae en fwy graddol." Beth ydy digwydd 
                    am weddill 2000? Oes Derrero ynrhyw gynlluniau mawr? "Dan ni eisiau 
                    recordio alwm arall eleni, yn obeithiol bydden ni'n eu orffen 
                    e cyn ddiwedd y flwyddyn," medde Dave.  A'r gobaith yw 
                    bydd yr albwm ma yn ennill ychydig o sylw, ac efallai 
                    gwerthu ychydig o gopïau," mae Andy yn ychwanegu. 
                    "Gallai hynny arwain at daith eitha da o'n hunain." Maer hanner 
                    arall o Big Noise, Greg Haver, yn ymuno ar y pwynt ma. 
                    "Bydd taith Grandaddy yn helpu. Mae en taith bach 
                    da i'w wneud." Dyna'r cysylltiad 
                    dw in eu hatgofio. Bydd ffan SFA yn mynd i weld Grandaddy 
                    oherwydd or cysylltiad teithio, a pan maen nhwn 
                    gweld Gradaddy byddan nhwn gweld chithau - mae e bron 
                    fel effaith knock-on.  Mae Andy yn cytuno: 
                    "Ie - ac mae cerddorion eraill yn eu hedmygu." "Naethon nhw 
                    ddall allan am Derrero hefyd" ychwanegodd Gref. "Roedden 
                    nhw wir yn eisiau ni i gefnogi. Roedd yn rhaid i ni doi'r 
                    Bluetones i lawr i wneud e, achos oedden ni'n gwybod faint 
                    roed Grandaddy eisiau ni wneud eu taith nhw" Gobeithio y bydd 
                    cymaint o ofyn am Derrero gyda cerddgarwyr ag sydd gyda bandiau 
                    eraill. Mae Fixation With 
                    Long Journeys allan nawr, ar Big Noise Recordings.  |