|  | 
               
                | Daeth hanner cant o gynigion i law, gan ddeunaw o awduron 
                    gwhanol, ac roedd y safon ar y cyfan yn dda. Gofynwyd am stori 
                    fyddain gydnaws ag ysbryd hwyliog a chwareus gwefan 
                    Clwb Malu Cachu, safle lliwgar ar gyfer dysgwyr o bob 
                    lefel. Straeon eitha byr felly, o dan 350 o eiriau. Roedd rhai or awduron wedi mynd i gyfeiriad llên 
                    meicro, gan lunio straeon cynnil oedd yn awgrymu sefyllfa 
                    a ffeithiau, yn hytrach nau cofnodin blwmp ac 
                    yn blaen; tra oedd eraill wedi mynd i gyfeiriad mwy traddodiadol, 
                    gyda dechrau, canol a diwedd amlwg  ond diwedd annisgwyl 
                    yn aml iawn!  |  | 
                     
                      |  |   
                      | Mae Ifor ap Glyn yn 
                          darllen y feirniadaeth |  |  Penderfynwyd mai straeon yr ail garfan oedd debyca o fod at ddant 
              mynychwyr Clwb Malu Cachu, ac felly er bod y ddau feirniad wedi 
              oedi dipyn uwchben Trafferthion Dysgu, Hanner Awr Wedi Pump, Y Pethau 
              Bach Pwysig, Y Gath, Arfon ar Gair Budur, Y Crys-T, Glan y 
              Môr a Gardd Nain ymhlith eraill, y stori a ddaeth ir 
              brig oedd Yr Aduniad.
 Dyma stori effeithiol gan awdur syn deall sut i gael y gorau 
              or ddrama yn y sefyllfa, or galwad ffôn syn 
              agor y stori, ir tro annisgwyl ar ei diwedd. Mae na 
              ambell i fân lithriad a ddylid ei gywiro cyn cyhoeddi, ond 
              gwobrwyer awdur Yr Aduniad.
 [intro][yr aduniad]
 |  |