| |
Monday, February 23, 2004
Tisho mynd i weld cwis newydd yn cael ei ffilmio?
Ar yr ebost:
Tybed a fydde da'ch aelodau diddordeb mewn ymuno a chynulleudfa cwis newydd sbon S4C?
Mae cwmni deledu Mentorn yn cynhyrchu rhaglen cwis gwybodaeth cyffredinol newydd ei gyflwyno gan Sian Lloyd. Cwis democrataidd cyntaf y byd yw "Dewis y Doeth" ble mae'r gynylleudfa yn ethol y cystadleuwyr o'u plith ac yn pleidleiso dros faint o'r kitty i gamblo ar pob cwestiwn.
Mae tocynnau ar gael yn rhad ac am ddim i aeolodau o'r cyhoedd a lice ddod i gymryd rhan fel aelod o'r gynulleidfa yn stiwdio HTV, Culverhouse Cross, Caerdydd ar nos Fawrth yr ail o Fawrth.
Tybed os ydych chi'n gwybod am unrhyw aelodau a fydde a diddordeb mewn dod i'r ffilmio? Y rhif i galw yw 020 7258 6715 neu ebost: sgrace@mentorn.co.uk
Gyda diolch,
Sam Grace
Dw i eisiau mynd, ond fedra i ddim. Os ti'n mynd, rhaid iti fy ebostio fi hefo adroddiad llawn!
posted by Suw
| 11:23 AM
Saturday, February 21, 2004
Siaradwyr Cymraeg ym mhobman
Dw i wedi ailddechrau dysgu Pwyleg unwaith eto, ar o^l deng mlynedd i ffwrdd. Mae gen i gwpl o ffrindiau sy'n siarad neu dysgu Pwyleg, felly gobeithio bydd hynny'n fy helpu fi dal ati. Dw i wedi rhoi'r gorau i ddysgu Iseldireg am eiliad, achos mae'n jyst amhosib i ynganu.
Eniwe, dw i wedi ymuno a^ grwp Yahoo - y Polish Language Study Group - jyst i gael tipyn bach o help efo cyfieithiadau ayyb. Dw i'm wedi bod yna mwy na chwpl o ddyddiau pan mae rhywun yn dechrau siarad yn Gymraeg i mi. Bendigedig! Mae 'na siaradwyr Cymraeg ym mhobman!
posted by Suw
| 4:12 PM

|
|