| |
Wednesday, January 28, 2004
URL newydd
Dw i wedi bod yn aildrefnu'r wefan, felly mae gan y blog 'ma url newydd: http://www.clwbmalucachu.co.uk/blog/. Mae'r ffid wedi symud hefyd: http://www.clwbmalucachu.co.uk/blog/cmc_blog.rdf . Updatiwch eich cysylltiad ac agregeitorion, plīs!
posted by Suw
| 12:39 PM
Saturday, January 24, 2004
Dal i updatio
Iawn 'te. Dw wedi symud y wefan i'r host newydd, felly dw i'n hapus efo hynny. Ond dw i wedi uploadio dim ond un tudalen. Rhaid imi ailwneud y nav achos dw i'n adio gwasanaeth newydd. Fydda i ddim yn dweud be', ond mae'n da iawn iawn.
Yn y cyfamser, dw i'n symud ty hefyd. Dw i'n surrounded gan bocsys llawn dop o crap ar hyn o bryd. Rhaid imi eu sortio nhw allan. Joi. Gormod i wneud, dim digon o amser i eistedd o gwmpas yn gwylio fy DVDs newydd.
posted by Suw
| 10:37 AM

|
|