| |
Saturday, February 21, 2004
Siaradwyr Cymraeg ym mhobman
Dw i wedi ailddechrau dysgu Pwyleg unwaith eto, ar o^l deng mlynedd i ffwrdd. Mae gen i gwpl o ffrindiau sy'n siarad neu dysgu Pwyleg, felly gobeithio bydd hynny'n fy helpu fi dal ati. Dw i wedi rhoi'r gorau i ddysgu Iseldireg am eiliad, achos mae'n jyst amhosib i ynganu.
Eniwe, dw i wedi ymuno a^ grwp Yahoo - y Polish Language Study Group - jyst i gael tipyn bach o help efo cyfieithiadau ayyb. Dw i'm wedi bod yna mwy na chwpl o ddyddiau pan mae rhywun yn dechrau siarad yn Gymraeg i mi. Bendigedig! Mae 'na siaradwyr Cymraeg ym mhobman!
posted by Suw
| 4:12 PM

|
|