| |
Wednesday, April 16, 2003
Ie, ie, dw i'n gwybod
Bob dydd, dw i’n eistedd wrth fy nghyfrifiadur, a dw i’n meddwl ‘rhaid imi sgwennu rhywbeth am fy mlog cymraeg’, a bob dydd dw i’n meddwl ‘efallai nes ymlaen’. Pam? Achos pan dw i’n meddwl am y blog ‘ma, dw i’n meddwl yn Saesneg, a phan dw i’n meddwl am fy mlog Saesneg dw i’n meddwl yn Gymraeg. Perverse iawn, on dydy?
Eniwe, rhaid i chi fynd i flog Neil Gaiman sy’n ddoniol, deallus a diddorol. (Ac yn ôl pob tebyg, pethau eraill sy’n dechrau gyda ‘d’.) Ac ie, dw i’n gwybod fy mod i wedi sôn am flog Neil ar fy mlog Saesneg, ond mae yn werth ei weld.
Hefyd, dyma rhybudd cyfeillgar: paid â lladd eich hunan wrth upgradio eich cyfrifiadur.
posted by Suw
| 9:14 AM
Thursday, April 10, 2003
blogiau eraill
Mae 'na gwpl o flogiau Cymraeg eraill ar y we: Ynyr.com, Rwdls Nwdls, a Bratiaith. Diolch i Nic Morfablog am y wybodaeth 'na. Hefyd, mae Nic wedi dechrau blog arall (yn Saesneg), o'r enw Pethau, sy'n edrych diddorol. Mae'n dda iawn i weld mwy blogiau o'r gymuned Cymreig.
Gyda llaw, os dych chi eisiau darllen fy mlog Saesneg, mae o yna.
Popeth ydy hynny. Cats rule.
posted by Suw
| 6:35 PM

|
|