| |
Tuesday, March 18, 2003
Mae amser yn hedfan
Wel, dyma fi unwaith eto. Dydy’r stori ddim yn newid - dw i’n dal i weithio fel twpsen. Ond, dw i’n gwneud cynnydd dw i’n meddwl. Dw i’n bron â gorffen fy nghynllun busnes newydd. Wahey! Dw i’n ehangu’r busnes a gobiethio bydda i’n gallu datgan rhywbeth cyn bo hir…
Nes i gyfweliad gyda’r Western Mail y diwrnod arall. Roedd o’n od iawn, chimod. Dych chi’n dweud rhywbeth throwaway, a’r dydd nesa, mae o yn y papur! Ddo i ddim i arfer â gwneud cyfweliadau. Well gen i fod y cyfwelydd, nid y cyfweledig.
Eniwe, o’n i wedi anghofio am y peth pan heddiw o’n i’n darllen Morfablog ac o’n i’n sylwi fy enw fy hun… Diolch am y sôn Nic, ond dwi’m yn enwog yn union! Nid eto.
Dydd Sadwrn bydda i’n mynd i Lundain am y protest. Nid person gwleidyddol ydw i, ond dwi’n teimlo’n grac iawn am y ffwrdd fod Blair wedi actio. Dydy o ddim yn actio mewn enw y bobl, a rhaid imi wneud rhywbeth jyst i ddweud ‘Nid yn fy enw i’.
Ar bwnc arall, mae gen i gopi o DigiGuide, listings teledu ar fy nghyfrifiadur, ac mae’n rhoi reminders llafar, ond dydy o ddim yn ymdopi gyda Chymraeg o gwbl. Mae ‘Pacio‘ yn cael ei pronunciation fel ‘Paysho’ ac ‘Iechyd da’ fel ‘Yeechid da’. LMAO.
posted by Suw
| 9:01 PM
Saturday, March 01, 2003
Dydd Dewi Sant Hapus!
Dw i'n mynd i barti bach yn y Groucho Club heno, i ddathlu Dydd Dewi Sant. Bydd o'n lot o hwyl, mae'n siwr. Yn y cyfamser, dyma weflogau i chi... House Gymnastics - os dych chi'n o slightly nuts ac eisiau ymarferion corff diddorol. Neu beth am fy hoff band y foment, Hot Hot Heat, sy'n cwl iawn iawn. Cân wych ydy Bandages, dim byd ond genius, dw i'n meddwl. Felly, bydda i'n reportio 'nôl am y parti yfory, efallia... os dw i'n goroesi...
posted by Suw
| 11:29 AM

|
|