| |
Thursday, February 06, 2003
Rather good!
Dw i'n hoffi cathod bach. Dw i'n hoffi'r Vines. Dw i'n hoffi cathod bach sy'n canu'r Vines. Yn enwedig pan maen nhw'n cathod bach crac.
Hefyd, dw i'n hoffi Mr Splish Splash. Na, dw i'n caru Mr Splish Splash. Pwy ydy o? Wel, os dych chi'n gwrando ar Ian Camfield ar XFM, (1pm - 4pm), ac yn enwedig os dych chi'n gwrando ar Scraping the Barrel, wedyn dych chi'n nabod Mr Splish Splash. Os nad, wel, mae Mr Splish Splash yn tapio’r un gwythïan fel Robert Newman yn gwneud Jarvis - yr llais, yr acen, y mannerisms, a’r siaced smocio... Roedd y dyn sy’n gwneud Mr Splish Splash yn ffan mawr o Newman a Baddiel, siwr o fod. Ond nid cyflwynwr ydy o, dim ond aelod y cynulleidfa sy wedi ffonio i fewn i Scraping the Barrel bob dydd i bleidleisio am y trac cachu fod Camfield eisiau chwarae. Ond mae o'n jyst rili ffycin hysterical. Eniwe, os dych chi eisiau pisio'ch panties, rhaid i chi wrando, 3.30pm bob dydd. Sky Channel 864, neu ar y wefan. A phaid â dweud fy mod i ddim yn gwneud unrhywbeth neis i chi.
Yn olaf, dw i'n rili hoffi perverting the young and innocent... bwah ha haaa... dw i wedi gwybod, am gyfnod, fod y tudalen rhegi ar CMC yn poblogaidd iawn. Wel, mae rhegi’n pwysig iawn os dych chi eisiau fod yn rhugl. Ac mae'n ymddangos fod y bobl Fark yn cytuno â fi. Snigger. Wps.
Iawn 'te. Rhaid imi cael bath nawr. Splish splash!
posted by Suw
| 11:05 PM

|
|