| |
Friday, January 31, 2003
Dw i'n dal yn brysur
Wel, dyma fi, yn trio ffeindio’r amser i sgwennu’r fy mlog unwaith eto.
Dw i wedi dechrau dysgu Ffrangeg nawr, yn ogystal â Iseldireg ac (wrth gwrs) Cymraeg. Ydw i’n sucker for punishment neu be’? Enwie, pam ydw i’n dysgu Ffrangeg? Wel, o achos fy ffrind newydd, Christophe, sy’n byw ym Mharis. Cyfarfodon ni ym Manceinion, mewn parti fawr am benblwydd 40ed ein ffrind Mike. A pha fath o barti roedd hynny! Ffycin ffantastig, mate.
Eniwe, mae Saesneg Christophe yn fendigedig, ac o’n i’n meddwl y dylswn i ailddysgu Ffrangeg. Astudies i Ffrangeg pan o’n i’n ifanc, (jyst fel gweddill y boblogaeth Lloegr), ond o’n i’n casáu’r peth. Dydy o ddim yn ffonetig o gwbl, ac mae’r grammadeg yn tortuous… Ond dw i’n hoffi siarad â phobl yn eu iaith, felly dw i wedi gofyn i Christophe i fy helpu fi, a nawr mae o’n ebostio brawddeg siml i mi, jyst i gadw fy niddordeb.
I rili dysgu’r iaith, dw wedi prynu’r cwrs gan Michel Thomas - dim llyfr, dim sgwennu, dim ond clywed ac ailadrodd. O’n i’n amau’r dechneg, ond mae’n gweithio fel breuddwyd. Mae’n teimlo naturiol i ddysgu fel ‘ny, a phan dych chi’n clywed i esboniadau Thomas am y ‘similarites’ rhwng Ffrangeg a Saesneg, mae’n ymddangos fel iaith siml iawn. ‘Na fargen!
Ond, mae’n piti fawr sdim cwrs fel ‘ny am Gymraeg. Dw i’n dal i gael problemau’n deallt be’ mae pobl yn dweud i mi, a sai cwrs Cymraeg fel hyn yn bod godsend fawr.
posted by Suw
| 11:23 AM
Saturday, January 11, 2003
Voorpret!
Îc! Ble aeth y mis diwetha? Wel, es i i Dorset am bythefnos, am Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Ces i amser da iawn - llawer o ymlacio a chysgu, a chwarae efo fy nith ifanc. Ffantastig.
Ond nawr mae rhaid imi rhoi fy nose to the grindstone unwaith eto. Os buoch chi’n meddwl am beth sy’n digwydd efo CMC, a pham dydy’r wefan ddim wedi cael ei updatio yn ddiweddar, wel, bues i’n weithio y tu ôl i’r llenni ar gwpl o bethau diddorol iawn. Dwi’m yn gallu dweud wrtha chi be’ dw i’n gwneud, ond bydd o’n ffantastig iawn pan popeth yn dod at eu gilydd.
Yn y cyfamser, dw i’n dal i ddygsu Iseldireg. Ik ben de baas!! (Y pennaeth dw i!) Dw i wedi prynu llyfr cwrs nawr, ac mae’n diddorol iawn i fod yn dysgu iaith newydd unwaith eto. Mae’n dda iawn, achos mae’n fy atgoffa fi o ddysgu Cymraeg, ac mae’n rhoi llawer syniadau da imi am y wefan CMC. Mae fy ffrindiau Iseldiraidd wedi gwneud MP3s yn Iseldireg i fy helpu fi efo fy ynganiad, sy’n lot o hwyl, ond mae Vincent yn siarad mor gyflym fy mod i ddim yn gallu clywed ble mae un gair yn stopio, ac mae’r gair nesa’n dechrau.
Eniwe, mae ‘na ddiharebion gwych yn Iseldireg:
Hij heeft een klap van de molen - Roedd o’n taro gan melin wynt (mae o’n gwallgof) Wat heb ik nou aan mijn fiets hangen? - Beth sy’n hongian ar fy miec nawr? (pa fath o llanast ydw i mewn nawr?) een dag niet gelachen is een dag niet geleeft - Un dydd heb chwerthin ydy un dydd heb byw (i.e. a day unlived, ond dwi’m yn gallu ffeindio ‘unlived’ yn y geiriadur!)
Hefyd, mae gynnyn nhw y gair ‘voorpret’, sy’n golygu ‘pre-fun’ yn Saesneg. Dw i’m yn siwr beth ydy ‘voorpret’ a dweud y gwir, ond dw i’n meddwl bydda i’n darganfod y penwythnos nesa, pan bydda i’n cyfarfod â fy ffrindiau Iseldireg ym Manceinion, efo 27 pobl eraill o Sweet Adeline. Partiiiiiiiiiiii!! Bydda i’n rhoi gwybod i chi be’ sy’n digwydd, os dw i’n gallu cofio…
posted by Suw
| 12:56 PM

|
|