| |
Wednesday, April 16, 2003
Ie, ie, dw i'n gwybod
Bob dydd, dw i’n eistedd wrth fy nghyfrifiadur, a dw i’n meddwl ‘rhaid imi sgwennu rhywbeth am fy mlog cymraeg’, a bob dydd dw i’n meddwl ‘efallai nes ymlaen’. Pam? Achos pan dw i’n meddwl am y blog ‘ma, dw i’n meddwl yn Saesneg, a phan dw i’n meddwl am fy mlog Saesneg dw i’n meddwl yn Gymraeg. Perverse iawn, on dydy?
Eniwe, rhaid i chi fynd i flog Neil Gaiman sy’n ddoniol, deallus a diddorol. (Ac yn ôl pob tebyg, pethau eraill sy’n dechrau gyda ‘d’.) Ac ie, dw i’n gwybod fy mod i wedi sôn am flog Neil ar fy mlog Saesneg, ond mae yn werth ei weld.
Hefyd, dyma rhybudd cyfeillgar: paid â lladd eich hunan wrth upgradio eich cyfrifiadur.
posted by Suw
| 9:14 AM

|
|