| |
Monday, December 16, 2002
Porwyr. Gah!
Dw i wedi cael llond bol o blydi porwyr. Mae bob porwr yn rwtsh. Mae IE'n crashio trwy'r amser, yn mynd â fy nghyfrifiadur efo fo. Mae Netscape yn jyst dweud 'dim data' neu rhywbeth rili defnyddiol fel hwnnw. A Mozilla? Wel, mae'n y gorau, ond dydy o ddim yn perfaith chwaith - dydy o ddim yn dangos y tudalenni yn gywir, ac mae'n crashio trwy'r amser. Beth ydy'r problem, bois? Dach chi ddim yn gallu programmio porwyr half decent bellach?
Grrr.
posted by Suw
| 10:02 PM
Ik spreek Nederlands
Wel, dw i'n dysgu Iseldireg eniwe. Mae fy ffrind Vinkie'n fy helpu fi, efo brawddegau fel:
Zullen we ons als piraten gaan verkleden? Wyt ti eisiau gwisgo fel môr-ladron? Zullen we van heuvels af gaan skateboarden? Wyt ti eisiau sgrialfwrddio i lawr bryniau? Heb je zin om met mij op de tafel/ bar te dansen? Wyt ti eisiau mynd yn dawnsio ar y bwrdd/bar efo fi?
Gobeithio bydda i'n cael siawns i ddefnyddio'r brawddegau 'ma cyn bo hir. Yn y cyfamser, dw i'n hangio allan ar y wefan 'ma i drio dysgu sut i ynganu Iseldireg - mae'n anodd achos dw i'n dal i drio ynganu popeth fel yn y Gymraeg. Tschus. Wel, rhowch imi cwpl o flynyddoedd a bydda i'n sgwennu'r geiriadur Cymraeg/Iseldireg cynta...
posted by Suw
| 6:33 PM
Friday, December 13, 2002
O, gyda llaw... mae'r Serissa?
... wedi marw. mae'n drist iawn, ond dydy o ddim yn tuff enuff i oroesi. Un penwythnos poeth a oedd o wedi had it. :-(
posted by Suw
| 11:14 AM
Extreme Ironing a chamera newydd
O'n i'n gwylio teledu y dydd arall, pan darganfyddes i raglen am chwaraeon newydd - Extreme Ironing. A beth ydy Extreme Ironing, dych chi'n gofyn. Wel, mae'n: "The latest danger sport that combines the thrills of an extreme outdoor activity with the satisfaction of a well pressed shirt. It involves taking an iron and board (if possible) to remote locations and ironing a few items of laundry. This can involve ironing on a mountainside, preferably on a difficult climb, or taking an iron skiing, snowboarding or canoeing."
Dw i eisiau gywbod - oes 'na unrhyw 'ironists' sy eisiau dod i fy nhy^ a gwneud fy smoothio? Mae gen i'n lot fawr i wneud, ac mae'n peryglus iawn o achos fy nghath, sy ddim yn eisiau'r bwrdd smoothio o gwbl. Wir i ti, guv.
Hmm.. beth arall... Dw i wedi prynu camera digidol. Canon Ixus V3 ydy o, ac mae'n secsi iawn iawn. Jyst mor fach a dinky. Ac mae'n gallu cymryd ffilmiau byrion (dim ond 30 eiliad), efo swn. Felly, disgwyliwch i weld rhywbeth hwyl ar y wefan ar ol 'Dolig (pan dw i wedi gweithio allan beth mae'r holl fotymau'n gwneud!).
posted by Suw
| 11:04 AM
Wednesday, December 04, 2002
I wandered lonely as a sheep
O'r BBC:
Mae Valerie Laws wedi cael grant o £2000 i baentio geiriau ar gefnau defaid i "...explore randomness and some of the principles of quantum mechanics, through poetry, using the medium of sheep."
Reit. Dw i eisiau "explore randomness and some of the principles of quantum mechanics through the medium of talking shite". Ble mae fy £2000 'te?
posted by Suw
| 12:33 PM
o, gyda llaw
Ces i son am MorfaBlog, gan Nic Dafis. Felly diolch - mae'n neis i wybod fy mod i ddim yn siarad â fy hun!
posted by Suw
| 10:04 AM
ble mae’r parmesan?
Dw i’m yn deall. Dw i’n hoffi caws parmesan, ond sdim yn Tescos o gwbl. Dw i wedi chwilio’r silf caws am misoedd, bob tro dw i’n mynd yn siopa, ond sdim byd yna. Beth ydy’r problem? Oes ‘na prinder o fuchod yn yr Eidal? Dw i eisiau fy parmeggiano reggiano a dw i eisiau fo nawr!
Yn y cyfamser, o’n i’n gweld erthygl diddorol iawn yn y New Scientist, am ieithyddiaeth. Ydy dy iaith yn gallu dewis sut wyt ti’n meddwl? Mae’n ymddangos efallai ydy, mae dy iaith yn siapio’r ffordd dan ni’n meddwl. Yn arbennig efo syniadau fel amser - ydy amser yn mynd ymlaen, neu i fyny? Dan ni’n meddwl am amser fel llinell sy’n mynd syth ymlaen, ond mewn diwylliannau eraill, mae’n fel ysgol sy’n mynd i fyny ac i lawr. I fyny i yfory, ‘te!
posted by Suw
| 10:00 AM
Monday, December 02, 2002
Scrwj? Moi?
Wel, 'na ni 'te. Mis Rhagfyr ac mae 'na oleuadau Dolig bobman. Dw i'n meddwl fod o'n tipyn bach gynnar i ddechrau rhoi i fyny goleuadau Dolig. Mae'n gwanhau'r ysbryd Dolig. Dw i'n hoffi gwneud fy siopa Noswyl Nadolig, yn y munud olaf... mae'n rhoi, er, tipyn bach o 'fin' i'r proceedings. A rhaid imi dweud, dw i'n danfon fy ngherdyn Dolig Dydd Calan. Dw i'n jyst mor anhrefnus...
posted by Suw
| 11:05 PM

|
|