| |
Wednesday, November 27, 2002
Ble mae'r haul?
Eh? Dw i wedi cael llond bol o gaeaf, a dweud y gwir. Dyddiau diflas a tywyll. Dw i eisiau mynd i San Diego yn lle ble mae'n heulog a chynnes, neu LA. Wel, mae 'na smog yn LA felly efallai nid syniad rhy dda ydy hynny. Ond mae gen i lot o wahoddiadau oddiwrth ffrindiau sy'n byw yn y States, felly gobeithio bydda i'n gallu mynd yna yn y blwyddyn nesaf. Mae fy itinerary yn cynnwy (ar hyn o bryd - mae'n subject i newid) San Diego, Austin TX, Portland OR, Chicago, Boston MA, Eugene MA (efallai) ac wrth gwrs dw i eisiau mynd i NYC ac LA. Dim ond taith bach, 'te. Hmm, dw i'm yn siwr os mae fy ngherdyn credyd yn gallu diodde y stress...
Beth bynnag arall... dw i newydd gorffen gwefan bach ar gyfer fy ffrind Andy, sy newydd dechrau busnes fel DJ. Felly, os dych chi eisiau trefnu parti ac eisiau DJ shithot, wedyn dych chi'n gwybod ble i fynd. Paid ā dweud fy mod i ddim wedi dweud wrthoch...
posted by Suw
| 10:41 PM
Saturday, November 23, 2002
Wps!
Wel, mae'r blog 'ma wedi bod yn dawel iawn am y pedwar mis diwetha. Pam? Achos dw i wedi bod dechrau busnes newydd - Y Ffynhonnell Ltd. Sech chi ddim yn credu faint o waith ydy o. Dw i wedi bod gweithio dyddiau 10 neu 12 awr, jyst i wneud y basics. Gah!
Ond, rhaid imi confess, dw i wedi darganfod rhywbeth arall i wneud efo fy amser. www.sweetaddy.com. Nesegfwrdd am yr artist Americanaidd Elliott Smith ydy o, ac mae'n ffycin greit. Dw i wedi bod treuli gormod o amser yna, a dweud y gwir, jyst yn malu cachu a siarad am bethau twp fel y daeargrynfeydd ym Manceinion (mae 'na lot o bobl ar y bwrdd sy'n byw yna). Ond yn anffodus, dw i newydd dechrau ffrae mawr am evolutionary biology. Wps. Mae'n amlwg fod rhai o'r Amercanwyr ddim yn hoffi'r syniad evolutionary o gwbl. Sgwn i os mae hynny'n o achos eu system addysg sy ddim yn cynnwys syniadau Darwinian neu pethau am evolution.
Beth arall... o ie, dw i wedi bod mynd ar Soulseek lots hefyd. Rhwydwaith peer2peer ydy o, efo lot o ffeiliau Elliott Smith i download... Ffan mawr o Elliott ydw i nawr - mae o'n genius cerddorol sy wedi cael Oscar nomination am y cān Miss Misery (o'r trac sain Good Will Hunting). Mae gynno fo llais fel angel briwedig o galon ac mae ei gerddoriath yn fendigedig, jyst mor deimladwy, ond hefyd, eitha digalon. Hardd iawn. Os dach chi ddim wedi clywed unrhywbeth gan Elliott, rhaid i chi!
Wel, 'na ni 'te. Sdim lot o bethau cyffrous yn fy mywyd ar hyn o bryd. Dim ond Elliott, y ryngrwyd a gwaith.
posted by Suw
| 12:01 PM

|
|