| |
Sunday, June 23, 2002
Cwrs dwys undydd
Dw i wedi bod yn gweithio’n galed y penwythnos ‘ma - ddoe, es i i’r cwrs dwys undydd, yn y Ganolfan Cymry Llundain. Roedd o’n ardderchog, fel arfer. Dysgais i lot o bethau newydd - eiriau newydd, grammadeg newydd - a cyfarfodais i rai pobl newydd hefyd.
Dw i eisiau mynd ar mwy gyrsiau - maen nhw’n siawns dda i ddysgu, i siarad a chael lot o hwyl. Yn anffodus, does ‘na ddim llawer o gyrsiau yn yr ardal Reading, felly rhaid imi deithio i Lundain, a reit poen yn y din ydy hynny. Pe baswn i’n gweithio yn Llundain, medrwn i fynd i’r cwrs City Lit, efallai, ond dydy o ddim yn neis iawn yn teithio’n ôl i Reading yn hwyr yn y noson.
Wel, efallai dylswn i fynd i’r Nant Gwtheyrn yn lle - mae’n llawer mwy dymunol yn y Ogledd Cymru!!
posted by Suw
| 9:07 PM
Sunday, June 16, 2002
Rods...
Mae'n anodd iawn i sgwennu'r blog 'ma, pan sdim byd imi i ddweud. Ar hyn o bryd dwi'n gweithio yn galed iawn, trio i sgwennu cynllun busnes (fesiwn tri miliwn...). Dydy o ddim yn glamorous iawn, neu diddorol. Felly sdim pwynt yn sgwennu am y peth ar y wefan 'ma.
Ond, mi welais i raglen diddorol yr wythnos diwetha. Am 'rods'. A beth ydy rod, 'te, dych chi'n gofyn. Wel, mae neb yn gwybod. Maen nhw'n gallu darganfod ar tâp fideo sy wedi cymryd tu allan, tua ar fachlud yr haul. Maen nhw'n edrych fel ffon hir thenau, efo beth sy'n edrych fel adenydd - efallai un, dau neu dri pâr (neu fwy). Maen nhw'n hedfan yn gyflym - rhy gyflym i weld efo'r llygad noeth. Maen nhw'n hoffi ogofau, ac dych chi eu darganfod nhw o gwmpas y byd.
Ond, beth maen nhw? Ydyn nhw'n dim ond pryfed sy'n hedfan yn agos i'r camera? Neu ydyn nhw'n life form newydd inni? Neb sy'n gwybod...
posted by Suw
| 8:40 PM
Monday, June 10, 2002
darllen a breuddwydio
Dw i ddim wedi bod yn bloggio, achos dw i wedi bod brysur iawn yn gweithio ar fy nghynllun am y wefan CMC. Mae gen i gynllun enfawr am y wefan, ond byddan nhw'n cael lot o amser i'w wneud o, felly cydymddwynwch â mi.
Eniwe, roeddwn i'n edrych at y wefan BBC, ac roedd erthygl diddorol iawn yna. Mae'n ymddangos mai beth dych chi'n darllen yn cael effaith ar beth dych chi'n breuddwydio. Os dych chi'n darllen ffantasi, byddwch chi'n fwy debyg i gael hunllefau neu breuddwydion lucid (pan dych chi'n gwybod fod chi'n breuddwydio). Os dych chi'n hoffi nofelau rhamantus, byddwch chi'n gael breuddwydion mwy emosiynol.
Yn anffodus, dydyn nhw ddim yn dweud beth sy'n dygwydd i bobl sy'n darllen lot o lyfrau grammadeg!
posted by Suw
| 7:43 AM

|
|