| |
Wednesday, November 27, 2002
Ble mae'r haul?
Eh? Dw i wedi cael llond bol o gaeaf, a dweud y gwir. Dyddiau diflas a tywyll. Dw i eisiau mynd i San Diego yn lle ble mae'n heulog a chynnes, neu LA. Wel, mae 'na smog yn LA felly efallai nid syniad rhy dda ydy hynny. Ond mae gen i lot o wahoddiadau oddiwrth ffrindiau sy'n byw yn y States, felly gobeithio bydda i'n gallu mynd yna yn y blwyddyn nesaf. Mae fy itinerary yn cynnwy (ar hyn o bryd - mae'n subject i newid) San Diego, Austin TX, Portland OR, Chicago, Boston MA, Eugene MA (efallai) ac wrth gwrs dw i eisiau mynd i NYC ac LA. Dim ond taith bach, 'te. Hmm, dw i'm yn siwr os mae fy ngherdyn credyd yn gallu diodde y stress...
Beth bynnag arall... dw i newydd gorffen gwefan bach ar gyfer fy ffrind Andy, sy newydd dechrau busnes fel DJ. Felly, os dych chi eisiau trefnu parti ac eisiau DJ shithot, wedyn dych chi'n gwybod ble i fynd. Paid â dweud fy mod i ddim wedi dweud wrthoch...
posted by Suw
| 10:41 PM

|
|